Telerau ac amodau i werthwyr
Drwy gofrestru fel Gwerthwr ar NectarMap, rydych chi'n cytuno â'r telerau canlynol. Maen nhw'n berthnasol yn ogystal â phrif delerau gwasanaeth NectarMap. Os nad ydych chi'n cytuno, rhaid i chi beidio â rhoi eitemau ar werth na'u gwerthu ar y platfform.
1. Eich cyfrifoldebau cyfreithiol
Rydych chi'n cadarnhau bod gennych chi hawl gyfreithiol i werthu'r eitemau rydych chi'n eu rhoi ar werth. Ar gyfer mêl a bwydydd eraill, rhaid i chi gydymffurfio â holl reoliadau diogelwch bwyd, labelu a hylendid y Deyrnas Unedig, gan gynnwys:
- Rhoi cyfeiriad cyswllt dilys ar label yr eitem.
- Sicrhau bod pob mêl wedi'i ddisgrifio'n gywir, heb ei lygru, a'i fod yn bodloni'r safonau perthnasol.
- Dilyn gofynion perthnasol iechyd yr amgylchedd ar gyfer echdynnu, potelu a storio.
2. Cywirdeb eitemau
Rhaid i'r wybodaeth am bob eitem fod yn wir a pheidio â bod yn gamarweiniol. Chi sy'n gyfrifol am sicrhau bod prisiau, lefelau stoc, disgrifiadau a lluniau'n adlewyrchu'n gywir yr eitemau rydych chi'n eu gwerthu.
3. Cyflawni archebion
Rydych chi'n cytuno i anfon archebion o fewn yr amser sydd i'w weld yn eich gosodiadau gwerthwr. Rydyn ni'n eich annog yn gryf i ddefnyddio gwasanaeth dosbarthu wedi'i olrhain, er mwyn meithrin ymddiriedaeth prynwyr a helpu i ddatrys anghydfodau. Chi sy'n gyfrifol am becynnu eitemau'n ddiogel i'w cludo.
4. Gwasanaeth i brynwyr
Rhaid i chi ateb negeseuon prynwyr o fewn amser rhesymol a datrys problemau sy'n ymwneud ag eitemau wedi'u difrodi, eitemau sydd heb gyrraedd neu archebion anghywir. Os bydd anghydfod yn gwaethygu, gall NectarMap ymyrryd, a bydd penderfyniad NectarMap yn derfynol.
5. Ffioedd a thaliadau
Bydd ffioedd comisiwn a chostau prosesu taliadau'n cael eu tynnu o bob gwerthiant yn unol â'ch cynllun gwerthwr. Mae NectarMap yn cadw'r hawl i newid ffioedd ar ôl rhoi rhybudd.
6. Ymddygiad sydd wedi'i wahardd
Rhaid i Werthwyr beidio â gwneud y canlynol:
- Rhoi eitemau ffug, anghyfreithlon neu anniogel ar werth.
- Camliwio tarddiad, pwysau, cynhwysion neu ddulliau cynhyrchu eitemau.
- Ceisio osgoi NectarMap er mwyn gwerthu i brynwyr y tu allan i'r platfform.
- Ymyrryd ag adolygiadau, neu gamddefnyddio negeseuon neu nodweddion y platfform.
- Cyhoeddi cynnwys sarhaus, amhriodol neu niweidiol.
7. Atebolrwydd
Chi yn unig sy'n gyfrifol am yr eitemau rydych chi'n eu gwerthu. Mae NectarMap yn darparu platfform marchnad, a dydy NectarMap ddim yn atebol am broblemau sy'n codi o'ch cynhyrchu, eich pecynnu, eich dosbarthu na'ch cysylltiadau â phrynwyr.
8. Atal neu gau cyfrif
Gall NectarMap atal neu derfynu eich cyfrif gwerthwr os byddwch chi'n torri'r telerau hyn, yn methu â chyflawni archebion, yn rhoi gwybodaeth ffug, neu'n ymddwyn mewn ffordd sy'n niweidio prynwyr neu enw da'r platfform.
9. Newidiadau i'r telerau hyn
Gall NectarMap newid y telerau hyn i werthwyr ar unrhyw adeg. Os byddwch chi'n parhau i ddefnyddio'r platfform ar ôl i newidiadau ddod i rym, rydych chi'n derbyn y telerau newydd.
Cysylltu â ni
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y telerau hyn i werthwyr, cysylltwch â thîm cymorth NectarMap.